top of page

Yr Ogof Olaf - Taith Sain : HENO!



Rwy'n gyffrous i gyhoeddi bydd Rhan 1 ar gyfer darn olaf fy mhrosiect (Mapio Sain Ein 5 Milltir Sgwâr) yn cael ei rhyddhau ddydd Sul, Mawrth 28ain ar y lleuad lawn. Mae'n daith sain fer, dwyieithog, lled-ryngweithiol gyda naratif, cerddoriaeth a seinwedd naturiol o bob rhan o Gymru. Byddai'n ddelfrydol gwrando arno yn y cyfnos – beth am fynd ag ef am dro lleuad llawn?


GWRANDEWCH YMA gyda'n gilydd am 7yn ar Fawrth 28ain, neu unrhyw bryd wedi hynny: https://soundcloud.com/wildnoteswales


Gallwch naill ai gerdded neu eistedd i wrando ar hyn – os eistedd, beth am gynnau cannwyll efallai a gwneud eich hun yn gyfforddus…

Dewch â'ch cyfnodolyn a'ch sgrifbinnau gyda chi!


Mae'r darn hwn yn gyflwyniad i'r straeon a'r perfformiad a fydd yn dilyn yn rhannau dau a thri. Dewch â'ch cyfnodolyn a'ch sgrifbinnau gday chi i wrand! I glywed eich mapiau sain yn dod yn fyw , anfonwch nhw i wildnoteswales@icloud.com erbyn Ebryll 12fed.

///

Diolch i : Cyngor Celfyddydau Cymru Y Loteri Genedlaethol Lisa Schneidau Ben Porter Badger Brown Ashley Leung Annie Suganami Naomi & Sandra @ Beyond the Border Peter Stevenson fin

///

Dod yn fuan...

Yn Rhan 2... darganfyddwch pwy sydd wedi bod yn llunio'r siapau ar y waliau! {Ffilm & adrodd straeon}

Yn Rhan 3... Perfformiad Ailsa o'r Map Sain {Cerddoriaeth & ffilm}

///

Cefnogwyd y cynllun yma gan arian y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r Loteri Genedlaethol wedi rhannu £600 miliwn er mwyn cefnogi cymunedau led-led y DU yn ystod y cyfnod clo.


1 view0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page