top of page

MAPIO SAIN 2021 - GWAHODDIAD

Yn Galw...


Cantorion


Seinyddion


Gwylwyr Adar


Storïwyr

Ysgrifenwyr

Breuddwydwyr...


...ac yn bennaf oll, pobl cyffredin Cymru, (er fy mod yn amau eich bod yn ynod mewn rhyw ffordd)!


Mae hwn yn wahoddiad i bawb wrando i'r byd o'n cwpmas a bod yn greadigol yn y broses...i artistiaid ysgrifennu, i awduron baentio,i gerddorion ddysgu caneuon adar, i adarwyr dynnu llun, i gerddwyr recordio synau wrth i chi fynd, ac i ni gyd gysylltu'n ddyfnach â'r seiniau sain o'n hamgylchedd cartref (radiws 5 milltir lleol) ac actifadu ein creadigrwydd cynhenid.


Dyma rai pethau fedrwch wneud i gyd-greu map-sain o Gymru – ac ysbrydoli darn newydd o adrodd straeon cerddorol sy'n plethu stori werin, tirlun sain, cân a delweddau gyda soddgrwth a phedal lŵp, i'w berfformio yn y Gwanwyn gan yr artist Ailsa Mair Hughes o Fachynlleth. Gallech chi wneud pob un o'r 'tasgau' canlynol neu dim ond dewis un neu ddau.


1) Seinwedd Dydd Sul:

Beth yw eich hoff sain y dydd o fewn eich 5 milltir sgwâr? Chwiliwch ffordd i dynnu llun ohono, ei ddisgrifio neu ei recordio.


2) Y Sialens Adar: Allwch chi adnabod unrhyw uno'r caneuon adar yn ardal o amgylch eich cartref? Gwnewch restr o'r holl rai chi'n eu clywed, rhwng nawr a Mawrth 1af ac ynchwanegwch unrhyw ddisgrifiadau, neu siapiau wedi eu tynnu i fynd gyda nhw. Dilynwch Ben Porter ar Instagram @wildnoteswales i helpu i wella eich sgiliau adnabod.


3) Gwrando ar Ddŵr: Ymwelwch a ffynhonnell ddŵr ger eich cartref – afon, nant, y môr neu fynnon ayb., neu chwiliwch eiliad i wrando ar y glaw. Gadewch i'r synau eich arwain wrth lunio siapau, neu ysgrifennu mewn ymateb. Beth mae'r dŵr yn ei ddweud wrthych chi yn y foment hon? Os hoffech chi fe allech chi wneud hyn lawer gwaith a meithrin perthynas â'r dŵr.


4) Beth yw 'llofnod sain' eich cartref? Y pethau y byddech yn eu hadnabod fel eich cartref pe byddech yn cau'ch llygaid Ceisiwch dynnu llun hwn, gan ychwanegu labeli – fe allech chi roi darn mawr o bapur i fyny rhywle ac ychwanegu ato bob hyn a hyn.


6) Taith Gerdded Sain – Os oes gennych ddyfais recordio gludadwy e.e. ffôn smart, gwnewch raglen ddogfen fach o'ch taith gerdded leol yn disgrifio'r hyn rydych chi'n yn ei glywed, ac efallai sut mae'n gwneud i chi deimlo, unrhyw gysylltiadau â'r synau hyn. Gall hyn fod ddim on 30 eiliad neu lawer hirach os dymunwch!


6)Taith Gerdded Sain – Os oes gennych ddyfais recordio gludadwy e.e. ffôn smart, gwnewch raglen ddogfen fach o'ch taith gerdded leol yn disgrifio'r hyn rydych chi'n yn ei glywed, ac efallai sut mae'n gwneud i chi deimlo, unrhyw gysylltiadau â'r synau hyn. Gall hyn fod ddim on 30 eiliad neu lawer hirach os dymunwch!

Anfonwch (copïau o) eich lluniau, geiriau, recordiadau ataf yn wildnoteswales@icloud.com

erbyn Mawrth 1af 2021.

NEU postiwch i:

c/o Gerddi Bro Ddyfi Gardens, Y Plâs, Machynlleth, SY20 8ER

(Ysgrifennwch 'Prosiect Mapiau Sain” yn glir ar yr amlen.)


Dewisir detholiad I ddod yn rhan o ddarn olaf Ailsa: Nodwch os ydych am i'ch enwngael ei gydnabos. DS: Trwy eu hanfon rydych yn rhoi cniatâd iddynt gael eu defnyddio yn y darn perfformio neu eu rhannu fel arall fel rhan o'r prosiect 'Mapio Sain Ein 5 Milltir Sgwâr'.


Diolch yn fawr am gymryd rhan!

Rydym ni i gyd yn greadigol. Hyd yn oed os nad ydyn ni'n ei gredu!


Ailsa X


///

Ran o'r prosiect 'MAPIO SAIN EIN PUM MILLTIR SGWÂR' gan Ailsa Mair Hughes

Cefnogwyd y cynllun yma gan arian y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae’r Loteri Genedlaethol wedi rhannu £600 miliwn er mwyn cefnogi cymunedau led-led y DU yn ystod y cyfnod clo.



21 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page