top of page

(DEWISOL) CYFARWYDDIADAU AR GYFER MAPIAU SAIN


Pa ddeunyddiau celf bynnag sydd gennych – gallai hyn fod yn unrhyw beth o becyn grawnfwyd ac ychydig o bensiliau lliwio i ystod eang o baent ayb! Os oes gennych offer recordio (gall fod yn ffôn neu rywbeth gwirioneddol sylfaenol),fe allech ddod a hyn hefyd ac mae'n helpu i gael rhywbeth i bwyso arno.


O fewn eich radis pum milltir edrychwch am rhywle i eistedd neu cerdded a gwrandewch. Os ydych chi eisiau gallai hyn fod yn eich gardd neu hyd yn oed tu fewn i'ch tŷ gyda'r ffenestr ar agor, neu rhywle agos. Os fedrwch, edrychwch am rhywfaint o 'fannau gwyrdd' – naill ai parc, afon, coeden, y mȏr ayb., ond mae ble bynnag sy'n hygyrch i chi yn hollol iawn.

TIWNIWCH MEWN. Caewch eich llygaid, os yw hwn yn teimlo'n ddiogel i'w wneud, a theimlo ble mae'ch corff yn cysylltu â'r ddaear islaw. Tiwniwch mewn i'ch anadl, a sut mae ei sain yn newid wrth i chi anadlu i mewn ac allan. Beth yw'r synau pellaf y gallwch eu clywed? Beth yw'r rhai agosaf? Sawl haen o sain sydd?


DALIWCH ATI I WRANDO. A fedrwch deimlo'r sain yn eich corff? Sut mae nhw'n teimlo? A yw rhai yn fwy 'sŵn' na sain? Ydych chi'n hoffi rhai yn fwy nag eraill? Pa sain allwch chi ei nodi? Sylwch ar eich ymatebion yn unig.


RECORDIO: Os ydych am gymryd cofnod o'r tirwedd sain wrth i chi wneud eich map sain yna dechreuwch hyn nawr, yna anghofiwch eich bod yn recordio. Gallwch hefyd osod amserydd os dymunwch – rydym yn awgrymu treulio 5-20 munud ar eich mapiau sain.

Hirach os dymunwch! Bydd Ailsa yn rhannu cymaint o recordiadau a phosib ar dudalen SoundCloud Wild Notes Wales.


DECHREUWCH GAN WNEUD MARCIAU AR BAPUR. Rydym yn hoffi dechrau gan greu darlun o gylch ar bapur a dychmygu ein hunain yn y canol. Gadewch i'ch greddf eich tywys i dynnu ar bapur beth bynnag sy'n cyffroi eich clustiau...Nid yw'n ymwneud â bod yn arlunydd gwych, ond caniatáu i'ch ymatebion creadigol byrbwyll i sain lifo. Efallai y byddwch chi'n penderfynu cynrychioli'r synau mewn ffordd ffigurol: er enghraifft, tynnu car ar gyfer sŵn traffig. Neu efallai yr hoffech wneud marciau haniaethol sy'n edrych i chi fel y sŵn neu unrhyw le rhyngddynt. Ystyriwch a oes lliw gan y sain/ p'un a yw'n atgoffa o flas, arogl neu olwg, a chofnodwch hynny hefyd...


DALIWCH I WRANDO A DARLUNIO. Pa liwiau sy'n well gennych chi? Sut ydych yn dangos cyfeiriad y synau? Oes lliwiau gwahanol i synau 'sŵn' a 'neis'? A oes distawrwydd erioed? Beth am dreigl amser? e.e. Ystyriwch gwneud marc am bob enghraifft o ganu adar dros gyfnod o funud. Ydy'r synau yn gorgyffwrdd? Gallwch gronni haenau a haenau o farciau ar bapur – a gall hyn fod yn hollol yn eich steil eich hun!


YSGRIFENNU. Unrhyw eiriau, myfyrdodau – meddyliau dwys hyd yn oed! - sy'n dod tra'ch bod chi yn y 'parth'. Gellir gwneud hyn y tu allan i'ch cylch neu hyd yn oed tu mewn gan synau penodol. Gallwch hefyd ysgrifennu enwau unrhyw beth y gallwch chi ei adnabod yn y seinwedd o'ch cwmpas.


PAN YDYACH WEDI GORFFEN EICH MAP SAIN, efallai y byddwch am dreulio ychydig funudau yn ysgrifennu am eich profiad o gysylltu â'r seinwedd.


FEL ARALL, efallai yr hoffech chi archwilio dod yn rhan leisiol o'r seinwedd trwy wneud synau gyda'ch llais, gan gadw'n y parth greddfol a gweld beth ddaw!


ANFONWCH EICH MAPIAU SAIN – os ydych am wneud. Gellir gwneud hyn yn ddienw neu gyda enw – mae lan i chi. Gweler ein cyfeiriad e-bost (am luniau) neu gyfeiriad post (ar gyfer copïau corfforol) isod. Bydd Ailsa yn dewis sawl un o'ch mapiau sain i ysbrydoli darn o adrodd straeon cerddorol yn ddiweddarach eleni!


Os ydych am fynd ar y rhestr bostio i ddarganfod mwy am y prosiect hwn, e-bostiwch os gwelwch yn dda.

Os ydych wedi mwynhau hyn, DYWEDWCH WRTH EICH FFRINDIAU!



24 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page